Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Drafnidiaeth Gymunedol

Dydd Mawrth 24 Mawrth 2015 am 12.00

Tŷ Hywel, Ystafell Giniawa 1

Yn bresennol: Eluned Parrott AC (Cadeirydd), Paul Harding (Staff Cymorth yr Aelodau), Sian Summers-Rees (Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru)

Ymddiheuriadau: Hatti Woakes (Fforwm Trafnidiaeth Gogledd Sir Benfro), Ceri Cryer (Age Cymru), Iwan Williams (Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru), Bethan Jenkins AC, Simon Thomas AC, Rhodri Glyn Thomas AC, Ryland Doyle (Staff Cymorth Mike Hedges AC)

1.      Croeso, cyflwyniadau, ymddiheuriadau

Dechreuodd Eluned y cyfarfod drwy ofyn i'r Aelodau gyflwyno eu hunain, a diolchodd i bawb am fod yn bresennol.

Cafwyd yr ymddiheuriadau a nodir uchod.

2.      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2015

Cafodd y cofnodion eu cymeradwyo.

3.      Materion yn codi

Cafodd y linc i'r datganiad cenhadaeth ei anfon at bawb - : http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgOutsideBodyDetails.aspx?ID=294

4.      Ethol swyddogion

Cafodd Eluned Parrott AC ei hethol yn Gadeirydd. Cafodd Siân Summers-Rees, Cyfarwyddwr Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru, ei hethol i rôl ysgrifenyddiaeth.

5.      Yr Adroddiad Blynyddol

Cafodd yr Adroddiad Blynyddol ei nodi a'i dderbyn fel cofnod cywir.

6.      Yr Adroddiad Ariannol

Cafodd yr Adroddiad Ariannol ei nodi a'i dderbyn fel cofnod cywir. Nid oedd unrhyw gostau eraill ar wahân i'r rhai a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

7.      Rhaglen o gyfarfodydd agored

O ran ei waith ymgysylltu, byddai Cymdeithas Cludiant Cymunedol yn canolbwyntio ar Aelodau'r Cynulliad dros y misoedd i ddod drwy drefnu cyfleoedd iddynt gwrdd â darparwyr trafnidiaeth gymunedol yn eu hetholaethau.

Cytunwyd y byddai'r ddau gyfarfod nesaf (un i'w drefnu yn yr haf ac un arall yn yr hydref) yn canolbwyntio ar y pynciau a ganlyn:

1.      Beth yw dyfodol trafnidiaeth gymunedol?

 - A all y sector trafnidiaeth gymunedol lenwi'r bylchau sy'n deillio o'r ffaith fod gwasanaethau bws lleol yn diflannu? Os felly, sut y gall fodloni'r gofynion hyn heb adnoddau neu gapasiti ychwanegol?

- Pe bai'r sector trafnidiaeth gymunedol yn ehangu ei wasanaethau ar gyfer y cyhoedd yn sylweddol, beth fyddai'r effaith bosibl ar wasanaethau trafnidiaeth gymunedol 'traddodiadol' sy'n cefnogi pobl dan anfantais (yn enwedig o ystyried bod y galw am y gwasanaethau hyn hefyd wedi cynyddu)?

- Sut mae trafnidiaeth gymunedol yn cyd-fynd gydag elfennau eraill o'r darlun cludiant ehangach mewn perthynas â'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, er enghraifft llwybrau bwydo ar gyfer cefnogi mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus?

 

2.      Rôl trafnidiaeth gymunedol o ran cyflwyno gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys / trafnidiaeth iechyd

- Y wybodaeth ddiweddaraf ar Fwrdd Prosiect Trawsnewid gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys

- Darpariaeth gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol ar hyn o bryd, a chyfleoedd posibl ar gyfer gwaith yn y dyfodol

D.S. Y trydydd cyfarfod yn y gwanwyn fydd y cyfarfod cyffredinol blynyddol, yn ogystal â'r cyfarfod terfynol cyn yr etholiadau.

8.      Unrhyw Fater Arall:

Nododd Siân na chafwyd unrhyw benderfyniad ar y Grant Cymorth ar gyfer Gwasanaethau Bws nac ar gyllid Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Cam Gweithredu – Eluned Parrott AC i ofyn cwestiwn yn y Siambr ynghylch y Grant Cymorth ar gyfer Gwasanaethau Bws ac i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn pryd y dylid disgwyl penderfyniad ar gyllid Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru.

9.      Dyddiad y cyfarfod nesaf:

Dyddiad i'w gadarnhau.